RYDYM YN FALCH I GYFLWYNO CATALYST 360º
Labordy CULTVR yn cyflwyno rhaglen newydd o weithiau celf trochol yn archwilio’r croestoriad rhwng y byd ffisegol a’r byd digidol
RYDYM YN FALCH I GYFLWYNO CATALYST 360º – rhaglen drochol newydd o osodweithiau ac arddangosfeydd rhithwir gan artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
3 o breswyliadau celfyddydau trochol, 6 o arddangosfeydd ar-lein, a Diwrnod o Ddarganfod a Gweithgareddau Rhyngweithiol i’r Teulu Cyfan – Diwrnod Agored CULTVR – ddydd Sadwrn 14 Mai, 12:30pm-8pm.
Drwy raglen Catalyst 360º mae Labordy CULTVR wedi gallu comisiynu gweithiau celf trochol newydd gan amrywiaeth o artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r rhaglen gyntaf, sy’n derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnwys 3 o breswyliadau celfyddydau trochol, 6 arddangosfa rithwir a diwrnod agored sy’n rhan o’n ffrwd – “dim rhwystrau i fynediad”. Ein nod yn flynyddol yw darparu cyfleoedd i artistiaid a chydweithwyr o’r un meddylfryd i ddatblygu prosiectau creadigol sy’n defnyddio arferion amlddisgyblaethol i archwilio dyfnderoedd newydd Realiti Ymestynnol (XR). Rydym wedi dogfennu sioeau arddangos y rhaglen ar borth arlein CULTVR – gan ychwanegu at yr archif o gelfyddydau trochol a chreu gwaddol parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Agored CULTVR – ddydd Sadwrn 14 Mai, 12:30pm-8pm. Diwrnod yn llawn o weithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau gan gynnwys ffilmiau trochol, gosodweithiau sain a fideo, profiadau Realiti Rhithwir, arddangosfeydd crefftau ac arddangosfeydd digidol – y cyfan am ddim. Bydd ein diwrnod o ddarganfod hefyd yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth fyw gan artistiaid lleol ifanc drwy gydweithrediad gyda Sound Progression. Yn ogystal, bydd cyfle i bawb sy’n mynychu i bleidleisio dros eu hoff arddangosfa rithwir – bydd enillydd y bleidlais yn cael ei droi’n arddangosfa lawn yn oriel CULTVR yn 2023.