ARKA KINARI: CELF YMGYRCHU AR Y MÔR
Dangosiad cyntaf yn CULTVR, Caerdydd.
Perfformiad byw o stori drochol gan yr artistiaid a’r ymgyrchwyr hinsawdd rhyngwladol, Grey Filastine a Nova Ruth, mewn cydweithrediad â Chynyrchiadau 4Pi.
‘Hwylio i bedwar ban byd a chreu sioeau teithiol heb achosi llygredd – dyna oedd ein breuddwyd’ Filastine & Nova.
Mewn perfformiad byw o ddogfen drochol sy’n cyfuno fideo 360°, cerddoriaeth a stori, bydd Nova Ruth a Grey Filastine yn rhannu mordaith ar fwrdd yr Arka Kinari – platfform nofiol ar gyfer celf ymgyrchu sydd ar genhadaeth i ledu’r neges am y newid yn yr hinsawdd a hybu gwytnwch hinsawdd drwy gerddoriaeth a chelfyddyd.
‘Heriol, trochol ac yn rhannol o dan y dŵr’, mae’r Arka Kinari yn llong hwylio 70 tunnell sy’n cael ei phweru gan yr haul. Mae ganddi baneli solar a system ddihalwyno dŵr môr ac mae’n gartref i oriel gydweithredol o ymgyrchwyr, gwneuthurwyr ac artistiaid sy’n rhannu un neges a phwrpas – i seinio’r larwm ecolegol am y newid yn yr hinsawdd.
‘Mae Nova a fi wedi treulio’r deuddeg mlynedd diwethaf yn creu cerddoriaeth, fideos a pherfformiadau byw sy’n ymdrin â’r gwrthdaro rhwng dynoliaeth a gweddill byd natur. Effaith amlycaf y gwrthdaro hwnnw yw’r newid yn yr hinsawdd. Ond doedd trafod y broblem, na chreu celf am y broblem, ddim yn teimlo fel ymateb digonol i’r fath argyfwng dirfodol. Felly, fe wnaethom ni gynllun – i sicrhau fod ein dull o greu a gweithredu yn cyd-fynd â’n neges, a dechrau byw ar unwaith mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein hegwyddorion: Dyna oedd y weledigaeth ar gyfer yr Arka Kinari.’ – Grey Filastine
Am saith wythnos yn ystod haf eleni, fe ymunodd Cynyrchiadau 4Pi (stiwdio gelf o Gaerdydd) â Filastine a Nova ar fwrdd y llong wrth iddi deithio o Bali i Jakarta – i ddogfennu’r fordaith a chreu cynnwys trochol ar gyfer y perfformiad byw yma yn ogystal â chynhyrchu ffilm ddogfen 360°. Roedd cael bod yn rhan o’r gymuned ddiwylliannol, nofiol, hynod yma sy’n teithio i bob math o lefydd gan stopio mewn cymunedau anghysbell i rannu eu cerddoriaeth a’u celfyddyd yn brofiad cwbl ryfeddol i’r tîm cyfan – a hynny oll wrth deithio ar draws un o’n hadnoddau naturiol mwyaf, sef y môr.
“Dydyn nhw ddim yn swnio fel cerddoriaeth ‘byd’ ond yn hytrach, cerddoriaeth o fyd arall.” – Pitchfork
‘Mae cerddoriaeth Filastine & Nova yn cyfuno curiadau electronig gyda haenau dwys o leisiau, seiniau wedi’u recordio (musique concrète), synths analog a llinynau. Ac ar ben y cyfan, mae llais arallfydol Nova – mae’n gyfuniad iasol! Eu nod yw ‘creu byd arall’ gan ddefnyddio sain, fideo, dylunio a dawns i gyfryngu gweledigaeth o’r ‘posibl’ sy’n radicalaidd o wahanol. Mae eu neges yn canolbwyntio ar bosibiliadau creu economi di-garbon sy’n mynd i’r afael yn gadarn â heriau newid yr hinsawdd ac sydd wedi ymrwymo i ddiogelu’r môr.
Mae cynlluniau mawr ar droed i ddod â’r #ArkaKinari i’r Deyrnas Unedig yn 2024 – ei mordaith gyntaf i ddyfroedd Prydain. Bydd yn docio mewn amryw o lefydd, gan gynnig gweithdai cymunedol, taith dywys o gwmpas y llong a chyfle i’r cyhoedd fwynhau perfformiad byw gan Nova & Filastine o ddociau Caerdydd.
Am Un Noson Yn Unig! Ymunwch â ni i weld beth sy’n digwydd pan fo criw rhempus o artistiaid, gwneuthurwyr ac artistiaid yn mynd, gyda’r bwriadau gorau, i hwylio’r byd gyda’i gilydd – profiad sy’n cadarnhau popeth yr ydych yn ei ddychmygu am holl wylltineb y môr…..a mwy. Mae gyda ni docynnau ‘cyntaf i’r felin’ ar gael am bris arbennig – £7.00 tan 15 Hydref: 2 Tachwedd – ARKA KINARI: Celf Ymgyrchu ar y Môr gyda Filastine a Nova + 4Pi
Noddwyd y prosiect hwn gan raglen Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council.