Digwyddiad stori byw ymdrochol gan un o enwebeion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Minas.
MINAS: YSTAFELL AROS YN CULTVR
Yn dilyn taith lwyddiannus o amgylch y DU a chau’r Ŵyl Sŵn, ac enwebiad Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am ei albwm unigol cyntaf, All My Love Has Failed Me, mae’r artist o Gaerdydd, Minas, yn cyflwyno Ystafell aros– digwyddiad stori o gerddoriaeth fyw, delweddau 360 gradd a pherfformiad byw.
Mae’r digwyddiad Sesiynau Soundspace, sy’n cael ei gynnal dros ddwy noson yng nghanolfan celfyddydau digidol arloesol CULTVR, yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac mae’n rhan o Strategaeth Cerddoriaeth Cyngor Caerdydd.
Bydd Act Un ar 17 Tachwedd 2023 yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan Tamarebi, Lily Webbe, Freddy Forbidden, Foxxglove, Half Happy yn ogystal â Minas ei hun.
Bydd Act Dau ar y noson ganlynol (18 Tachwedd) yn cynnwys perfformiad gan Grove, Shlug, Minas, Sorry Stacy, Razkid, Mogan a Spit Hood, yn ogystal â set DJ gan Gemiiniize.
Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd James Minas: “Rydw i mor nerfus am y digwyddiad hwn, mae’n gyfle i wneud rhywbeth ar raddfa wahanol i unrhyw beth rydw i wedi’i wneud o’r blaen. “Dydw i ddim eisiau datgelu gormod, ond mae’n mynd i fod yn ddwys. “Mae’r bobl greadigol rydw i wedi bod yn gweithio gyda nhw i roi’r cyfan at ei gilydd wedi bod yn ardderchog ac mor dalentog, a gyda’n gilydd rwy’n credu ein bod ni wedi creu rhywbeth sy’n mynd â’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn fyw i lefel hollol newydd.”
Dydd Gwener 17 Tachwedd:
Drysau’n agor: 6.30pm
Dechrau: 7pm
ACT 1 – Tamaraebi / Lily Webbe / Freddy Forbidden / Foxxglove / Half Happy / Minas
Amser gorffen: 11pm
Dydd Sadwrn 18 Tachwedd:
Drysau’n agor: 5pm
Dechrau: 5.30pm
ACT 2 – Grove / SHLUG / Minas / Sorry Stacy / Razkid / MOGAN / Spit Hood / Gemiiniize (DJ) Amser gorffen: 12am
Tocynnau: Mae tocyn diwrnod yn £10 a’r ddau ddiwrnod gyda’i gilydd yn £15
Consesiynau: £5 y dydd.
Cynigir tocynnau consesiwn i fyfyrwyr llawn amser, ymwelwyr ag anableddau, pobl 65+, ac unigolion sy’n derbyn credyd cynhwysol.
Prynwch docynnau yma: https://www.ticketsource.co.uk/cultvrlab