Mis Hydref yma mae FDUK 2023 yn glanio yng Nghaerdydd gan droi’r brifddinas yn hwb rhyngwladol ar gyfer celfyddydau trochol a ch
Mae Labordy CULTVR, y Ganolfan Gelfyddydau Realiti Ymestynnol Flaenllaw, yn falch iawn i gyhoeddi ffurfio partneriaeth arbennig gyda Fulldome UK, gŵyl amlycaf y D.U. ar gyfer celfyddydau trochol. Maent wedi cydweithio i ddod â FDUK 2023 i Gaerdydd – y tro cyntaf erioed i’r ŵyl gael ei chynnal yng Nghymru. Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad arbennig iawn – yn ddathliad o brofiadau trochol a thechnoleg flaengar ac arloesedd ym maes cyfryngau trochol.
Bydd gŵyl FDUK 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng dydd Gwener 13 a dydd Sadwrn 14 o Hydref gan gyflwyno gweithiau gan artistiaid a chynhyrchwyr cryndo amgylchynol (fulldome) o’r D.U. a ledled y byd. Bydd yn gyfle gwych i brofi holl amrywiaeth creadigrwydd byd y cryndo amgylchynol a hefyd i gwrdd â chydweithwyr ym maes y celfyddydau trochol a dysgu ganddynt. Mae arlwy gyfoethog yr ŵyl yn cynnwys seminarau a sgyrsiau, gweithdai gydag aelodau blaenllaw o’r diwydiant, sgriniadau arbennig o ffilmiau rhestr fer FDUK 2023, perfformiadau byw, a llawer mwy.
“Mae FDUK 2023 wedi bod yn cefnogi artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol ac ymchwilwyr sy’n gweithio mewn amgylcheddau cryndo trochol ers dros ddegawd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddod â’r ŵyl i Gaerdydd am y tro cyntaf a chysylltu gyda’r gymuned ehangach yn y D.U. sy’n cyfrannu i ddyfodol deinamig y sector yma sy’n prysur esblygu.” – Ben Stern, Fulldome UK
Mae’r Detholiad Swyddogol o weithiau ar gyfer 2023 yn cynnwys 36 o ffilmiau trochol a gynhyrchwyd mewn 15 o wahanol wledydd. Bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu’r artistiaid o Ganada, Allison Moore, Arthur Desmarteaux a Lucy Fandel, i gyflwyno perfformiad byw o Cloud Bodies, sioe ddawns glyweledol amser real sy’n archwilio’r syniad o’r corff fel tirlun.
Mae rhaglen yr ŵyl yn denu cynulleidfa amrywiol sy’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn gan gynnwys cynrychiolwyr rhyngwladol, artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, cerddorion, cynhyrchwyr a gweithwyr creadigol ym maes technoleg.
“Pan aethom ni i ŵyl FDUK am y tro cyntaf nôl yn 2011 wnaethom ni ddim dychmygu am eiliad y byddem ni yn cael ei chynnal rhyw ddydd. Ers i ni ddarganfod cyfryngau di-ffrâm rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu ffilmiau cryndo amgylchynol a pherfformiadau trochol byw sydd wedi teithio ledled y byd. Nawr bod gyda ni ein canolfan gelfyddydau ein hunan, rydyn ni’n gobeithio y gallwn sicrhau fod platfformau digidol blaengar yn hygyrch i bawb. Wrth gynnal gŵyl FDUK 2023 yma, ein gobaith yw y bydd yn ysbrydoli ein cydweithwyr creadigol cymaint ag y gwnaeth ein sbarduno ninnau dros ddegawd yn ôl.” – Matt Wright, Labordy CULTVR
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu ar y cyd gan stiwdios cynhyrchu Gaianova (Llundain), 4Pi Productions (Caerdydd), United VJs (Brasil), NSC Creative (Caerlŷr), I-Dat a Real Ideas (Plymouth). Mae hefyd yn un o Bartneriaid Sefydlu gwobrau The Best of Earth Awards, cynghrair o rai o wyliau cryndo amgylchynol mwyaf nodedig ac uchel eu parch y byd, gan gynnwys y FullDome Festival yn Jena (Yr Almaen), Dome Fest West yn Los Angeles (UDA), Dome Under Festival yn Melbourne (Awstralia), SAT Fest yn Montréal (Canada) ac IMERSA USA.
Mae gŵyl FDUK 2023 wedi derbyn nawdd a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy asiantaeth Cymru Greadigol.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: “Mae rhoi cefnogaeth i Labordy CULTVR a FDUK i ddod â’r ŵyl gelfyddydau arloesol yma i Gymru am y tro cyntaf yn beth cyffrous iawn. Bydd hwn yn llwyfan gwych i gefnogi artistiaid, gweithwyr creadigol ac ymchwilwyr sy’n gweithio ym maes technoleg drochol.
Rwy’n annog pobl i fynd draw i brofi’r digwyddiad unigryw yma a darganfod ffyrdd newydd o fwynhau cyfryngau, ac rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli mwy o bobl i ddod yn rhan o’r sector newydd yma. Ac, wrth gwrs, rydyn ni’n edrych ymlaen at estyn croeso cynnes Cymreig i bawb sy’n ymweld â Chymru – Croeso!”
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: www.fulldome.org.uk