Rhaglen breswyl drochol ddwyochrog
Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi enw un o’r prosiectau a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen breswyl gydweithiol gyntaf rhwng y Society of Arts and Technology (Montreal, Canada) a Labordy CULTVR (Caerdydd, Cymru). Bydd y ddwy ganolfan ar gyfer celfyddydau trochol yn cefnogi’r broses o ddatblygu ‘The forest lives forever (because the forest eats itself)’ gan y cerddor amryddawn Richard Reed Parry a fydd yn cydweithio gyda’r ymchwilydd symudiad, Karina Bleau.
Mwy o newyddion i ddilyn yn fuan!
Mae’r rhaglen breswyl drochol ddwyochrog yma’n derbyn cefnogaeth gan raglen Galwad Agored Cymru-Quebec sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec.