Skip to content

amdanom

 Trochiad Diwylliannol a Chelfyddydau Digidol

Fel sefydliad nid er elw rydyn ni’n awyddus i hybu datblygiad artistig a datblygiad gyrfa, a chwalu’r rhwystrau mynediad i dechnolegau trochol yn ogystal â’r rhwystrau i ymgysylltu. Mae’r Labordy yn fan cyfarfod i gynhyrchwyr, technolegwyr, gwneuthurwyr ffilm a theatr, artistiaid, academyddion a pherfformwyr i archwilio posibiliadau di-ben-draw dulliau traws-gyfrwng o adrodd straeon a chelfyddydau trochol.


Ers 2019 mae CULTVR wedi bod yn ganolfan gelfyddydau digidol flaengar. Dyma’r Labordy trawsddisgyblaethol cyntaf o’i fath yn Ewrop, gyda phwyslais amlwg ar gelfyddydau digidol, perfformiadau trochol byw a phrofiadau Realiti Ymestynnol (XR). Drwy ddarparu strwythurau ffisegol a rhithwir rydyn ni’n cyfrannu i’r broses o ddemocrateiddio adnoddau a phlatfformau digidol yn ogystal â bod yn fan arbrofi ar gyfer Ymchwil a Datblygu a chreu, cyflwyno a lledaenu gweithiau trochol.

Mae ein Labordy yn cynnwys gofodau trochol, oriel y gellir eu haddasu a mannau amlbwrpas.

Mae ein Labordy yn gartref i chwe chwmni creadigol sy’n meithrin diwylliant o arloesedd.

Rydyn ni’n cyd-gynhyrchu perfformiadau trochol byw a’u teithio’n rhyngwladol.

Rydyn ni’n cefnogi Ymchwil a Datblygu ac yn hybu creu a chyflwyno profiadau diwylliannol a rennir.

Rydyn ni’n mwynhau cynnig ffyrdd newydd o brofi cerddoriaeth fyw i gynulleidfaoedd.

Rydyn ni’n frwdfrydig am gyfryngau digidol sy’n archwilio’r croestorfan rhwng celf a thechnoleg.

Rydyn ni’n archwilio ffurfiau theatr newydd gan wthio’r ffiniau rhwng bydoedd ffisegol a digidol.

Mae’r Labordy yn cynnig cynfas newydd i goreograffi blaengar gan asio technoleg a’r corff dynol.

Camwch y tu hwnt i’r ffrâm gyda ffilmiau trochol 360° sy’n cynnig math newydd o sinema.

Dewch i wybod mwy am ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a’n Tîm Craidd a’r hyn sy’n ein gyrru ni.

Rydyn ni’n falch i fod yn rhan o genedl ddwyieithog ac yn croesawu amlieithrwydd yn ein holl weithgareddau.

Rydyn ni’n poeni’n fawr am yr amgylchedd ac yn ymroi i leihau ein hôl-troed carbon.

Y newyddion diweddaraf am ein rhaglenni a’n mentrau cydweithio rhyngwladol.