Skip to content

CYMRYD RHAN

Labordy CULTVR yw’r ganolfan gelf drochol gyntaf o’i math yn Ewrop sy’n cynnig gofod trawsddisgyblaethol gyda ffocws cryf ar gelfyddydau digidol, Realiti Ymestynnol (XR), perfformiadau byw a sinema 360º.


Mae gan y Labordy fyrdd o ofodau trochol – gan gynnwys gofodau cryndo stereosgopig 3m a 6m, parth chwarae Realiti Rhithwir, theatr gryndo 12m arbennig o hyblyg gyda system sain amgylchynol 15.1. Mae’r Labordy’n cynnwys gofod cynllun agored mawr gydag oriel y gellir ei addasu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau artistig gan gynnwys arddangosfeydd, mapio ar gyfer taflunio a stiwdio ffilm gyda sgrin werdd.

Yma, cewch ragor o wybodaeth am ein rhaglen ar gyfer Preswyliadau Artistig.

Mae ein gwaith ym maes addysg yn cynnwys twf gyrfa a chyweithiau rhyngddisgyblaethol.

Dewch draw i un o’n Diwrnodau Agored i archwilio technoleg arloesol gyda ni.

Gwybodaeth am ein cyfleoedd gwaith technegol a chreadigol diweddaraf.

Gwybodaeth am sut rydyn ni’n cefnogi artistiaid gweledol sy’n gweithio’r tu allan i’r ffrâm.

Dewch i brofi dyfodol celfyddyd a thechnoleg drochol a chael cip ar beth sydd ar y gorwel.

Cyfle i ail-fyw rhai o berfformiadau anhygoel ein sesiynau byw yn y cryndo.

Rydyn ni wedi creu gefaill digidol sy’n cynnig cynfas rhithwir yn y Metafyd.

Gwybodaeth am sut i ymuno â ni i rannu creadigrwydd ar draws ein platfformau.