Cyfle i brofi siwrne anhygoel ar fwrdd y llong hwylio 70 tunnell, Akira Kinari, sydd wedi cael ei throi’n blatfform diwylliannol hynod i gynyddu sŵn larwm yr alwad frys i weithredu ar argyfwng yr hinsawdd. Hwyliwch gyda’r artistiaid nodedig, Filisinte & Nova, ar fwrdd yr Arka Kinari wrth iddyn nhw harneisio pŵer cerddoriaeth a chelfyddyd i ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth ledled y byd am wytnwch hinsawdd. Dyma gyfle arbennig i brofi eu taith ysbrydolgar ar draws y cefnforoedd a’u hymgyrch i gysylltu arfordiroedd pellenig drwy iaith gyffredin cerddoriaeth a chelfyddyd.
Drysau’n agor: 7pm
Dechrau: 7.30pm
Gorffen: 8.15pm