Noson o gabaret a chomedi theatrig trochol gydag elfennau o Syrcas, Dawns, Drag a Ffilm 360º.
Ymunwch â ni am noson arbennig o ryfeddodau perfformiadaol wrth i Griw Kitsch & Sync feddiannu ein Labordy i gyflwyno eu creadigaeth newydd, Shake & Bake. Yn ymuno â nhw ar y llwyfan bydd Ernie Sparkles & The Sparkletts, Dj Trishna Jaikara, gyda cherddoriaeth fyw gan y Teifiverse.
Mae Kitsch & Synch yn gwmni theatr dawns cydweithredol o Gaerdydd sy’n plethu gwahanol genres dawns ac arddulliau perfformio i greu gwaith gwreiddiol, cyffrous ac eclectig – gyda ‘chydig o flas retro.
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan – prynwch eich tocynnau nawr!
15 Mawrth 2024
Drysau’n agor am: 7pm
Amser cychwyn: 7.30pm
Amser gorffen: 12am
TOCYNNAU: £15 / GOSTYNGIADAU: £12