Skip to content
DasKoolies_CultVR_InstagramBnr

DK.01mmersive / Das Koolies

TOCYNNAU - £25

CULTVR yn cyflwyno: SESIYNAU SEINWEDD
Cefnogir yr arddangosfa gan Llywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd / Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd​​
Os hoffech gael eich diweddaru, e-bostiwch  digwyddiadau@caerdydd.gov.uk

DK.01MMERSIVE

Dychwelodd Das Koolies i’w gwreiddiau rêfio y llynedd gyda’u halbwm cyntaf DK.01, gan fynd ar drywydd cyn-ddylanwadau tecno, pop, krautrock a seic y Super Furry Animals cyn taro’r ffordd go iawn gyda thaith drwy’r DU a werthodd bob tocyn.

Nawr, mae Huw Bunford, Cian Ciarán, Daf Ieuan a Guto Pryce yn ôl yng Nghaerdydd ar gyfer perfformiad byw ymdrochol unigryw, mewn cydweithrediad â 4Pi Productions a Dah Dit Dit, y meddyliau creadigol y tu ôl i’w fideos cerddoriaeth arloesol.

Dydd Gwener 22 Mawrth
Drysau: 7pm
Das Koolies DJ set | set DJ: 8-9pm
Das Koolies Live | Yn fyw: 9-10pm

Tocynnau: £25 + ffi archebu
+16