Skip to content
DJ-YODA-1920x1080-2

Sesiwn Arbennig gan DJ YODA yng Nghryndo LABORDY CULTVR gydag elfennau gweledol 360º byw. Cyd-gynhyrchiad gyda 4Pi.

Sioe gryndo amgylchynol fyw gan y DJ a’r Cynhyrchydd hip-hop gwobrwyedig, DJ Yoda, sydd wedi serenu mewn clybiau a gwyliau ledled y byd. Nid yw YODA yn DJ arferol. Mae e’n chwilio am ffyrdd ffresh ac unigryw i ddefnyddio’i fyrddau troelli, i gamu allan o’r clybiau a chydweithio ar brosiectau hynod. Mae e wedi cydweithio gyda phob math o bobl – o gyfansoddwyr clasurol i niwrowyddonwyr, o fandiau pres i gyfarwyddwyr ffilm; o Dr Dre i’r Fonesig Evelyn Glennie; Banksy i Mark Ronson, Radio 4 i’r BFI. Mae ei ddyfeisgarwch a’r hiwmor yn bwrw golau newydd ar ei grefft.