Skip to content
Arka-Kinari-HEADER-2-scaled

ARKA KINARI: CELF YMGYRCHU AR Y MÔR

Dangosiad cyntaf yn CULTVR, Caerdydd.

Perfformiad byw o stori drochol gan yr artistiaid a’r ymgyrchwyr hinsawdd rhyngwladol, Grey Filastine a Nova Ruth, mewn cydweithrediad â 4Pi.

‘Hwylio i bedwar ban byd a chreu sioeau teithiol heb achosi llygredd – dyna oedd ein breuddwyd’ Filastine & Nova.

Mewn perfformiad byw o ddogfen drochol sy’n cyfuno fideo 360°, cerddoriaeth a stori, bydd Nova Ruth a Grey Filastine yn rhannu mordaith ar fwrdd yr Arka Kinari – platfform nofiol ar gyfer celf ymgyrchu sydd ar genhadaeth i ledu’r neges am y newid yn yr hinsawdd a hybu gwytnwch hinsawdd drwy gerddoriaeth a chelfyddyd.

‘Heriol, trochol ac yn rhannol o dan y dŵr’, mae’r Arka Kinari yn llong hwylio 70 tunnell sy’n cael ei phweru gan yr haul. Mae ganddi baneli solar a system ddihalwyno dŵr môr ac mae’n gartref i oriel gydweithredol o ymgyrchwyr, gwneuthurwyr ac artistiaid sy’n rhannu un neges a phwrpas – i seinio’r larwm ecolegol am y newid yn yr hinsawdd.

Am saith wythnos yn ystod haf eleni, fe ymunodd Cynyrchiadau 4Pi (stiwdio gelf o Gaerdydd) â Filastine a Nova ar fwrdd y llong wrth iddi deithio o Bali i Jakarta – i ddogfennu’r fordaith a chreu cynnwys trochol ar gyfer y perfformiad byw yma yn ogystal â chynhyrchu ffilm ddogfen 360°

02 Tachwedd 2022
7.30 pm
Ar gyfer pawb o bob oed
60 munud