Skip to content
FDUK-24-Header

FDUK 2024 – Immersive Festival

£180 Tocynnau

Mae FDUK yn ôl yn 2024!

Mae prif ŵyl y Deyrnas Unedig sy’n dathlu holl bosibiliadau’r cryndo amgylchynol (fulldome) yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed eleni – yng Nghanolfan CULTVR yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2024.

Bydd gŵyl FDUK yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar y 11.10.24 a’r 12.10.24 o Hydref gan gyflwyno gwaith gan artistiaid a chynhyrchwyr cryndo amgylchynol blaenllaw o’r Deyrnas Unedig a ledled y byd. Bydd y digwyddiad arbennig yma’n gyfle gwych i brofi holl amrywiaeth creadigol byd y cryndo amgylchynol ac i gwrdd â chydweithwyr creadigol ym maes y celfyddydau trochol a dysgu ganddynt.

Bydd FDUK 2024 yn dathlu cyfoeth y cryndo amgylchynol fel cyfrwng artistig gan gyflwyno sgriniadau ffilm, sgyrsiau, sesiynau arddangos, gweithdai, perfformiadau trochol byw a gweithiau celf rhyngweithiol. Cafodd gŵyl FDUK ei chynnal am y tro cyntaf nôl yn 2010, felly rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle yma i’w chroesawu i Gymru yn 2024. Bydd FDUK yn rhoi cyfle i ymarferwyr celfyddydau trochol cenedlaethol a rhyngwladol i rannu eu gwaith, sgiliau a phrofiad gyda’r gymuned ehangach. Bydd yn gyfle hefyd i weithwyr proffesiynol mewn meysydd creadigol a’r cyfryngau, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn technoleg drochol a chyfryngau di-ffrâm i rwydweithio a dysgu gan ymarferwyr yn y maes.

Yn ogystal â digwyddiadau’r ŵyl ddeuddydd arferol, byddwn yn cyflwyno detholiad o ffilmiau cryndo amgylchynol ddydd Sul y 15fed o Hydref – i roi cyfle i gynulleidfaoedd lleol brofi rhai o uchafbwyntiau’r ŵyl.

Cadwch lygad ar wefan FDUK am y newyddion diweddaraf am gyflwyniadau ar gyfer ffilmiau, sgyrsiau a pherfformiadau byw.