Skip to content

YMWELIADAU ADDYSGOL

 

Dewch i ddarganfod pŵer creadigol celfyddydau trochol a thechnoleg trochol drwy ymweliad addysgol bythgofiadwy â’n canolfan a’i hadnoddau. Cysylltwch â ni os hoffech ymweld â CULTVR – p’un a ydych yn Grŵp Cymunedol, Prifysgol, Coleg neu Ysgol, mae croeso i chi ddod i ddysgu mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

Wrth ddod ar ymweliad addysgol i CULTVR cewch gyfle arbennig i brofi pŵer amgylchfydoedd a thechnolegau trochol mewn cyd-destun ymarferol a rhyngweithiol. Dewch i ddysgu gyda’n tîm a chael tanio eich brwdfrydedd wrth weld sut rydyn ni’n gwthio ffiniau technoleg i greu gweithiau celf sy’n gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosib.

Mae hwn yn dipyn mwy na thrip ysgol neu gwrs coleg – mae’n gyfle hynod i gamu i mewn i ddyfodol byd celf a thechnoleg drochol, a gweld i ba gyfeiriad mae’r byd yn mynd.

Cysylltwch â’n tîm i drafod y gwahanol opsiynau y gallwn eu cynnig. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i’ch croesawu.