Skip to content

CELFYDDYDAU GWELEDOL

Rydyn ni’n frwdfrydig am gyfryngau digidol sy’n archwilio’r croestorfan rhwng celf a thechnoleg.

Mae defnyddio’r celfyddydau gweledol i fanteisio ar bosibiliadau cyfryngau digidol a phrofiadau trochol yn rhan bwysig o bortffolio CULTVR. Mae hyn wedi amrywio o gyflwyno arddangosfeydd wedi’u curadu gan Janire Najera a Matt Wright (o CULTVR) a ffotograffwyr gwadd fel Gareth Phillips a Michal Iwanowski i roi llwyfan i dalentau lleol fel Nathan Wyburn, Kamil D’ Jantos a The Umbrella Collective ymhlith nifer mwy.

Mae’r Labordy yn dangos gwaith myfyrwyr Cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol De Cymru yn gyson gan gynnig dull o gyflwyno gweithiau celf sy’n hyblyg ac wedi’i deilwra ar gyfer gofynion y gwaith.