Skip to content

THEATR

Rydyn ni’n archwilio ffurfiau theatr newydd gan wthio’r ffiniau rhwng bydoedd ffisegol a digidol.

Mae’r Labordy wedi croesawu cwmnïau theatr o Gymru a thu hwnt gan gynnig amgylchedd gwaith creadigol unigryw i archwilio dulliau newydd o gyflwyno cynhyrchiadau theatr.

Ymysg y rhain mae Unlimited Theatre, cwmni o Leeds sydd wedi ennill bri rhyngwladol, a ddaeth i’r Labordy i ddatblygu gwaith archwiliol newydd – ‘Nervous, 1001 Stories to Save your Life’ – gyda mewnbwn gan dîm creadigol y Labordy. Yn ogystal, mae cwmnïau theatr wedi defnyddio’r Labordy ar gyfer cyfnod creu eu cynhyrchiadau – fel ‘Hoof’, sioe awyr agored i deuluoedd a grewyd gan Theatr Iolo a Kitsch & Synch a ‘Rocket Launch Blaenavon’ gan Tin Shed. Mae ein rhaglen eclectig hefyd wedi cynnwys syrcas arbrofol, cabaret, comedi stand-yp ac arddangosiadau gwyddoniaeth theatraidd.