4Pi productions
Stiwdio greadigol trochol
Mae 4Pi Productions yn stiwdio sy’n cynhyrchu gweithiau trochol amlgyfrwng sy’n cynnig atebion creadigol drwy ddefnydd o gynnwys 360°.
Mae 4Pi yn archwilio’r byd sfferaidd drwy gynhyrchu gosodweithiau rhyngweithiol, cerflunweithiau amgylcheddol a phrofiadau trochol sy’n golygu fod eu prosiectau’n cyffroi’r dychymyg mewn ffyrdd newydd gan gynnig profiadau newydd i gynulleidfaoedd. Mae 4Pi yn gredwyr cryf mewn dulliau traws-gyfrwng o adrodd straeon a gallu technoleg i ymestyn a chyfoethogi naratifau sy’n archwilio themâu cymdeithasol perthnasol.