Skip to content

liminality

 

Liminality
Cyd-gynhyrchiad rhwng 4Pi Productions a Society of Arts & Technology – Perfformiad Trochol Byw

Perfformiad byw i gyffroi’r holl synhwyrau; cyd-blethiad o ddawns gyfoes, sinematograffi gweithredu byw 360º a goleuo, gyda cherddoriaeth fyw.

Datblygwyd ‘Liminality’ gan 4Pi mewn partneriaeth gyda’r Society of Arts and Technology (SAT) ym Montreal. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf ar y 13eg o Fawrth 2018 yn y Satosphere yn Montreal, a oedd dan ei sang. Cafodd ei gyflwyno fel un o ddewisiadau swyddogol gŵyl FIFA (Gŵyl Ryngwladol Ffilmiau am Gelfyddyd) rhwng y 13eg a’r 31ain o Fawrth 2018.

Perfformiad Trochol Byw: 45 munud
Dawnswyr: Kim Noble (y Deyrnas Gyfunol) & Manas Sharma (India)
Cyfarwyddo / Elfennau Gweledol / Cynhyrchu Technegol gan: 4Pi

Perfformiwyd am y tro cyntaf yn: Society of Arts and Technology, Canada.
Perfformiwyd yn: Labordy CULTVR, Caerdydd.