Skip to content

arka kinari

Celf Ymgyrchu ar y Môr

Arka Kinari 360º / Celf Ymgyrchu ar y Môr
Cyd-gynhyrchiad gyda 4Pi Productions – Perfformiad Trochol Byw

Cyd-gynhyrchiad rhwng Filastine & Nova a 4Pi lle maen nhw’n rhannu mordaith ar fwrdd yr Arka Kinari mewn perfformiad cryndo amgylchynol o ddogfen drochol sy’n cyfuno fideo trochol, cerddoriaeth a stori.

Mae’r perfformiad trochol yma’n cyfuno adrodd stori, cerddoriaeth fyw a fideo trochol i gyflwyno cenhadaeth yr Arka Kinari i ledu’r neges am hybu gwytnwch hinsawdd drwy gerddoriaeth a chelfyddyd.

Heriol, trochol ac yn rhannol o dan y dŵr – mae’r Arka Kinari yn llong hwylio 70 tunnell sydd wedi cael ei throi’n blatfform diwylliannol i seinio larwm ecolegol rhyngwladol am y newid yn yr hinsawdd. Mae’r perfformiad amlgyfrwng yma’n ffrwyth llafur cywaith rhwng artistiaid o Gymru ac Indonesia.

Perfformiad Trochol Byw: 60 munud
Adroddwyr y Stori a’r Cerddorion: Filastine & Nova
Cyfarwyddo ac Elfennau Gweledol gan: 4Pi
Ar gyfer: Cynulleidfaoedd o bob oed
Adnoddau Estyn Allan: Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r artistiaid (45 munud) / Pecynnau Gweithgareddau

Perfformiad Cyntaf: Labordy CULTVR / Caerdydd 2/11/22
Perfformiwyd yn: Fulldome UK, Market Hall, Plymouth, 5/11/2