Skip to content

FFILM

Camwch y tu hwnt i’r ffrâm gyda ffilmiau trochol 360° sy’n cynnig math newydd o sinema.

Mae Labordy CULTVR ar flaen y gad o ran cyflwyno math newydd o brofiad sinematig. Yn flynyddol, rydyn ni’n curadu rhaglen o ffilmiau cryndo amgylchynol (fulldome) o’r enw ‘Immersdiff’ sef rhaglen o ffilmiau sy’n archwilio amrywiaeth o themâu drwy o amrywiaeth o arddulliau a chynnwys – o ‘luniau byw’ i elfennau arbrofol, o gynnwys dogfennol i animeiddio ac elfennau addysgol wedi’u seilio ar bynciau STEAM.

Mewn partneriaeth â 4Pi Productions, sydd wedi cynhyrchu pedair ffilm ddawns 360º gydag artistiaid o Gymru, mae CULTVR wedi dod yn rhan o rwydwaith ryngwladol o ganolfannau cryndo amgylchynol gan rannu adnoddau a chynnwys a sgrinio ffilmiau yn ei sinema 100 sedd.