Skip to content

CAFFI / BAR

 

P’un a ydych am fwynhau diod sydyn cyn digwyddiad gyda’r hwyr, cymryd rhan yn un o’n gweithgareddau’n ystod y dydd neu’n edrych am rywle i eistedd ac ymlacio, mae ein Bar Caffi yn fan delfrydol. Mae gyda ni ddetholiad o ddiodydd gan gynnwys dewis eang o wirodydd, cwrw lleol a choctels ardderchog. Yn ein mannau eistedd ac ymlacio gallwch fanteisio ar ein wifi am ddim, gwneud eich gwaith neu gwrdd â ffrindiau dros baned neu latte.

Dewch i fwynhau misoedd yr haf gyda ni – galwch draw i ymlacio yn ein gardd a’n bar tu allan. Dewch i fwynhau’r haul a mwynhau diod fendigedig ac ymlacio yn ein hafan hyfryd.

Gan ein bod yn ymroi i gynnig gwasanaeth cyfrifol, rydym yn gweithredu polisi Her 25 yn ein bar – i sicrhau fod ein gwesteion yn gallu mwynhau eu diodydd mewn amgylchedd diogel a chyfrifol.

Dewch i fwynhau a gwneud gwahaniaeth. Fel menter nid er elw, mae pob ceiniog a wariwch yn helpu ein cenhadaeth i agor drws celfyddydau digidol i bawb.