LLWYBR REALITI ESTYNEDIG (AR)
Yn ystod eich ymweliad nesaf gwnewch yn siŵr eich bod yn profi ein Llwybr Realiti Estynedig wrth i chi archwilio gwahanol rannau ein canolfan. Logiwch i mewn i’n rhwydwaith wifi am ddim, ac yna wrth i chi grwydro fe welwch ein bod wedi gosod nifer o godau QR o gwmpas y Labordy. Sganiwch y codau i agor y profiadau cudd yr ydym wedi’u creu ar eich cyfer. Mae 8 o wahanol osodweithiau y gallwch ryngweithio â nhw. Dewch draw am antur!