STRAEON DIGIDOL
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom ni gyflwyno ein gweithdy Straeon Digidol ar y cyd ag Ymddiriedolaeth y Tywysog fel rhan o raglen Dechrau Arni. Roedd y cwrs yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 25 ddod i wybod mwy am y diwydiannau creadigol wrth ddysgu sut i ddefnyddio adnoddau digidol i adrodd eu straeon eu hunain.
Hefyd, fe wnaethom ni groesawu cohort o artistiaid o Swydd Efrog fel rhan o gwrs Live Cinema, ‘Immersive Experiences 101, dan nawdd SIGN (Screen Industries Growth Network). Fe wnaethom ni gyflwyno gweithdai am dechnegau ffilmio byw a Delweddau Wedi’i Cynhyrchu â Chyfrifiadur (CG) ar gyfer cynhyrchiadau trochol, dulliau creadigol o adrodd straeon a pherfformiadau byw ar gyfer prosiectau Realiti Ymestynnol (XR), a thechnegau ôl-gynhyrchu a chipio symudiad.