GWIRFODDOLI
SUT Y GALLWCH GYMRYD RHAN
Mae CULTVR yn ymroi i feithrin a hybu creadigrwydd yn y byd digidol. Yma, yn ein canolfan rydyn ni’n cynnal amrywiaeth eang o raglenni, gweithdai a digwyddiadau. Ein nod yw cynnig man cyfarfod cynhwysol i bawb archwilio a datblygu eu sgiliau ym maes celfyddydau digidol.
Os oes diddordeb gyda chi mewn gwirfoddoli, byddem yn dwlu clywed gennych. Hoffem glywed am eich diddordebau, sgiliau a’ch argaeledd. Fel gwirfoddolwr, cewch gyfle i weithio ochr yn ochr â’n tîm talentog a helpu gyda’n cenhadaeth i hybu celfyddydau a chreadigrwydd digidol.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan!