Skip to content

PROSIECTAU Y GALLWCH EU CEFNOGI

HELPWCH I WIREDDU RHAI O’N SYNIADAU

Ers agor drysau CULTVR yn 2019 rydyn ni wedi cydweithio gyda, a rhoi llwyfan i 31 o artistiaid gweledol a digidol, 182 o gerddorion, 64 o ymarferwyr dawns a theatr ac wedi arddangos gwaith dros 235 o fyfyrwyr prifysgolion a/neu golegau.

Mae 23 o artistiaid/academyddion wedi bod yma ar gyfnodau preswyl ac rydyn ni wedi cefnogi 11 o brosiectau Ymchwil a Datblygu ac 8 o brosiectau Realiti Ymestynnol. Rydyn ni wedi cyflwyno cerddoriaeth fyw gan 73 o fandiau/artistiaid cerddorol, 18 o ddigwyddiadau sgrinio ffilmiau, 11 o sioeau dawns a theatr, 16 o arddangosfeydd celf weledol yn ogystal â chynnal 25 o weithdai.

Ac rydyn ni wedi cyflawni’r cyfan fel menter annibynnol sydd ddim yn derbyn nawdd cyhoeddus cyson. Yn 2023 rydyn ni’n gobeithio ymestyn ein rhaglen addysg a chynnal mwy o weithdai am y dechnoleg ddiweddaraf sy’n dod i’r amlwg – i rymuso cyfranogwyr yn y diwydiannau creadigol.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y prosiectau y gallwch eu cefnogi.

PRESWYLIADAU ARTISTIG

Cyfle i chi noddi ein cyfres o breswyliadau artistig i ddatblygu gwaith newydd fel rhan o raglen Catalydd 360º.

DIWRNOD AGORED 2023

Dewch yn un o noddwyr ein Diwrnod Agored nesaf, a helpwch ni i agor ein drysau am ddim i’n cymuned leol.

ACADEMI CULTVR

Rhowch help i ni gyflwyno ein cyfres nesaf o weithdai am dechnolegau newydd a blaengar.