Skip to content

DIM RHWYSTRAU I GYMRYD RHAN

 

Nod rhaglen addysgol CULTVR yw datgloi’r potensial i arloesi a datblygu’r gallu i feithrin sgiliau arbenigol gan bontio’r bwlch rhwng mynediad at dechnolegau allweddol a’r gallu i’w rhoi ar waith i hybu twf y sector trochol mewn amgylchedd cydweithredol.

Rydyn ni’n cynnal cyrsiau a gweithdai ar bynciau fel ffilmio lluniau byw, Graffigwaith Cyfrifiadurol, sain ambisonig, adrodd straeon a thechnegau cynhyrchu 360°. Hefyd mae gan CULTVR ei offeryn addysgol ei hun sef ein ‘Canllaw A i Y’ – darlith ryngweithiol sy’n rhoi cipolwg ar hanfodion y cyfrwng cryndo amgylchynol ( y cymlethdodau, y derminoleg a’r cysyniadau allweddol).

Mae aelodau o dîm y Labordy yn cael eu croesawu’n gyson fel darlithwyr gwadd mewn amryw o sefydliadau academaidd ac yn cymryd rhan mewn arddangosiadau mewn cynadleddau a digwyddiadau rhyngwladol.

DIWRNOD AGORED CULTVR / Cadwch lygad allan am fanylion ein diwrnod agored nesaf. Diwrnod o weithgareddau y gall y teulu cyfan eu mwynhau gan gynnwys sgrinio ffilmiau trochol, gweithdai, gosodweithiau clywedol a fideo, Profiadau Realiti Rhithwir, crefftau ac arddangosfeydd digidol. Mae’r Diwrnod o Ddarganfod’ rhad ac am ddim yma hefyd yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan artistiaid ifanc lleol a gyflwynir gan Sound Progression.