modern love
curtis hughes
Yn ein cymdeithas heddiw, mae’r ffordd rydyn ni’n chwilio am gariad a’r ffordd rydyn ni’n ei ffeindio yn newid. Amcangyfrifir bod tua 38% o berthnasoedd newydd yn dechrau drwy ddefnyddio apiau fel Tinder. Ond, wrth i dechnoleg ddatblygu ac wrth i fwy o bobl nag erioed ddefnyddio apiau paru, ydy ffeindio cariad yn haws nag erioed o’r blaen?
Mae Modern Love yn troi at baentiadau portread hanesyddol am ysbrydoliaeth, gan roi cyfle i ni rannu enydau o agosrwydd a chysur wrth i’r gwaith ddatblygu’n araf a chydsyniol i gyflwyno cynrychiolaeth weledol o’r dyhead i chwilio am gariad, ffeindio cariad, a’i harneisio. Wrth ymgorffori negeseuon o apiau paru mae’r gwaith yn bwrw golau ar y byd rhithwir yn ogystal â’r byd go iawn.
“Drwy fy siwrne a fy nefnydd o apiau paru dw i eisiau cwestiynu fy mwriadau wrth geisio cariad a pherthnasoedd drwy archwilio, rhannu a chysylltu ar y cyd ag eraill, gan gyflwyno cynrychiolaeth weledol o baru a chariad yn yr Unfed Ganrif ar Hugain”.