e’plazini
MPUMELELO BUTHELEZI
Mae’r prosiect dogfennu ffotograffig yma’n edrych ar fywydau casglwyr gwastraff sy’n byw yn ‘Anheddiad Anffurfiol Dryhook’ yn Phororo ger Devland yn Soweto. Amcangyfrifir bod 85,000 o bobl yn Ne Affrica yn ennill bywoliaeth fel casglwyr gwastraff/ailgylchwyr.
Mae ‘casglwyr gwastraff’ yn casglu a didoli deunydd gwastraff er mwyn gwerthu’r deunyddiau y gellir eu hail-ddefnyddio a’u hail-gylchu (fel papur, cardfwrdd, cynwysyddion plastig, gwydr a metel) – proses brynu a gwerthu sy’n dueddol o fod yn ‘anffurfiol’. Mae gwaith y casglwyr gwastraff yn galluogi cynyddu lefelau ailgylchu mewn dinasoedd a threfi yn ogystal â helpu i gadw llawer o wastraff rhag cael ei gario i safleoedd tirlenwi.
Mae’r bobl yma wedi bod yn byw drwy gasglu gwastraff i’w ailgylchu o bob rhan o Soweto ers dros ddeng mlynedd. Mae’r deunyddiau gwastraff yn cael eu hailgylchu’n ddyddiol mewn safle dympio – o 4 o’r gloch y bore tan 4 y pnawn. Mae rhai o’r casglwyr yn gweithio ar raddfa wythnosol ac eraill ar raddfa ddyddiol. Yna, caiff y deunyddiau gwastraff eu cario gan dryciau ailgylchu i wahanol gwmnïau fel Reduce, Reuse a Recycle. Mae’r cwmni ailgylchu’n talu R3.20 am bob cilogram o gynhwysyddion plastig a chaniau gwag; R1.20 am bob cilogram o blastig; a R2 am bob cilogram o focsys cardfwrdd. Ar ddiwrnod arferol maen nhw’n ennill tua R40; R60 ar ddiwrnod da; a thua R200 (£10.53) yn wythnosol.