automated living
Kialy Tihngang
Siop rithwir yw ‘Automated Living’ sy’n gwerthu casgliad o beiriannau a ddyfeisiwyd i ‘wella’ ein bywydau. Ond mae’r rhain yn beiriannau od, di-bwrpas a gorgymleth. Mae’r prosiect yma’n cyflwyno ymateb amlddisgyblaeth i’r arfer neo-drefedigaethol o ddympio hen nwyddau electronig: pan fo gwledydd cyfoethog hemisffer y gogledd yn dympio e-wastraff (hen ffonau, gliniaduron ayb) yng ngwledydd tlotach hemisffer y de sydd heb yr isadeiledd i brosesu gwastraff o’r fath. Mae gor-gynhyrchu yng ngwledydd y Gorllewin yn arwain at sefyllfa lle mae tomenni o beiriannau defnyddiol yn pentyrru’n wastraffus mewn safleoedd tirlenwi.
Mae Kialy yn cyflwyno ei gwaith ar ffurf siop rithiol sy’n debyg o ran estheteg i wefannau e-fasnach rhyfedd sy’n gwerthu pob math o beiriannau gorgymleth. Mae ‘defnyddioldeb’ honedig y peiriannau yn ddoniol, ac yn amrywio o’r sinistr i’r di-bwrpas: Dyfais i wirio eich dannedd cyn mynd ar ddêt – gyda deintbig llawer rhy chwyrn sy’n troi ceg y darpar garwr yn gyflafan waedlyd; neu benset realiti rhithwir ‘peekaboo’ sy’n awtomeiddio’r broses ‘peekaboo’ yn llwyr – gyda chanlyniadau trychinebus. Nod Kialy yw mynd i’r afael ag obsesiwn gwledydd y Gorllewin â chyfleuster a newydd-deb – obsesiwn y mae pobl mewn rhannau eraill o’r byd yn talu’n ddrud amdano.