Skip to content

bunker diaries

anna sellen

Diferyn wrth ddiferyn, cawn ein bwydo â choncrit.

Yn y prosiect yma, mae Anna yn defnyddio gofod ffisegol y byncer ac archif ei theulu i gwestiynu etifeddiaeth y Rhyfel Oer. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth, hanes llafar, archifau a dyddiaduron i archwilio profiadau bywyd ei theulu a phrofiadau ei bywyd ei hun yn yr Undeb Sofietaidd rhwng 1952 a 1986. Mae ganddi ddiddordeb yn effaith penderfyniadau gwleidyddol a grym y wladwriaeth i foddi lleisiau a bwydo gwybodaeth ffug ar fywydau a hunaniaeth pobl, o un genhedlaeth i’r nesaf, a’r hyn y mae hynny’n ei olygu yn ein byd ni heddiw.