Skip to content

PRESWYLIAD RHYNGWLADOL

SAT yn MONTREAL

Mae CULTVR yn cymryd rhan yn rhaglen Immersive Labs sy’n cael ei chynnal gan SAT Montreal ac AADN Lyon (Ffrainc) mewn cydweithrediad â C-Lab (Taiwan) ac AVX Lab (Brasil). Rhwng 17 – 21 Mawrth 2025 bydd y rhaglen yn croesawu grŵp o artistiaid o Gymru a fydd yn cydweithio gydag artistiaid o wahanol rannau o’r byd i greu gweithiau trochol dan gryndo. Bydd y prosiectau drafft a ddatblygir yn ystod yr wythnos yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd mewn digwyddiad arbennig i gloi’r rhaglen.

Mae’r rhaglen garlam yma’n cyfuno elfennau o breswyliad creadigol, gweithdy datblygu proffesiynol a hacathon; bydd hefyd yn gyfle i’r cyfranogwyr fanteisio ar dechnoleg, cryndo a gofod gweithio SAT. Bydd y rhaglen yn cael ei llywio gan nifer o fentoriaid rhyngwladol yn ogystal ag artistiaid lleol sydd wedi gweithio ar brosiectau cryndo mawr yn y gorffenol.

Mae’r prosiect yma wedi derbyn cefnogaeth gan Raglen Gydweithredu Cymru-Québec 2024 a noddir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec.

Mae’r broses ymgeisio wedi cau bellach a byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am y prosiect buddugol yn fuan.
Mae’r prosiect yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a Chwibec. 2023.