CATALYDD 360º
Galwad Agored
CATALYST 360º / Galwad Agored
Dyddiad Cau: 10 Chwefror 2025 am 5pm GMT
Fel rhan o’n rhaglen ymchwil a chreu yn 2025, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi manylion rhaglen Catalydd 360°:
3 Preswyliad Celfyddydau Trochol: Bydd y preswyliadau hyn yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio, datblygu a chyflwyno prosiectau trochol blaengar yn ein cryndo 360°. Mae’r rhaglen yn agored i artistiaid, sefydliadau a mentrau cydweithio â phrofiad ym maes celfyddydau trochol.
6 Sioe Arddangos Realiti Ymestynnol (XR) Byw: Byddwn yn dewis chwe phrosiect a rhoi cyfle iddynt brototeipio a chyflwyno gwaith yn ein cryndo trochol a manteisio’n llawn ar ein hadnoddau blaengar. Yn agored i artistiaid, sefydliadau a mentrau cydweithio o Gymru.
0 Rhwystr i Gymryd Rhan ac Ymgysylltu: Rydyn ni’n falch bod ein cartref yma yn Grangetown ac yn falch ein bod yn cael cyfle i gydweithio â’n cymuned leol drwy weithdai, ymarferion agored, sgyrsiau a theithiau tywys.
Rydyn ni wrthi’n cynllunio Diwrnod Agored ar gyfer Gorffennaf 2025 – byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn fuan.
Mae gyda ni ddwy alwad agored benodol ar gyfer rhaglen Catalydd 360º. Nod y ddwy raglen yw cynnig cefnogaeth i artistiaid a mentrau cydweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae manylion y galwadau agored i’w gweld isod. Cymerwch amser i ddarllen y wybodaeth am y naill alwad a’r llall yn ofalus i ddeall y cyfleoedd y maent yn eu cynnig a’r gofynion ar eu cyfer.
Yn ogystal, gofalwch eich bod yn lawrlwytho’r canllawiau llawn i sicrhau bod eich prosiect yn cydfynd â’r amcanion a’r meini prawf cyn anfon eich cais. Hoffem eich annog i adolygu eich cais yn drylwyr i sicrhau eich bod yn gallu manteisio’n llawn ar y cyfle cyffrous yma.
PRESWYLIAD CELFYDDYDAU TROCHOL 2025
Mae’r elfen hon o’r rhaglen yn cynnig 3 preswyliad a fydd yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio, datblygu a chyflwyno cynhyrchiadau trochol a phrofiadau trochol byw. Rydyn ni’n anelu’r alwad agored yma’n benodol at artistiaid â phrofiad o greu prosiectau trochol i’w hannog i ddod â’u harbenigedd a phrofiad i ddatblygu gwaith arloesol drwy ddefnyddio’r cyfrwng unigryw hwn.
Mae’r alwad hon yn wahoddiad i ymarferwyr creadigol gyflwyno prosiectau a fydd yn manteisio’n llawn ar adnoddau a phosibiliadau creadigol unigryw Labordy CULTVR a’i ofod perfformio blaengar (sy’n cynnwys cryndo trochol 360º a system sain gwmpasog 15.1). Ein nod wrth greu’r Labordy oedd creu canolfan i hwyluso ymgysylltiad â chelfyddydau trochol, a dyma gyfle i chi arbrofi, profi syniadau a datblygu gwaith creadigol i’w gyflwyno yn yr amgylchedd arbennig yma.
Bydd y Rhaglen Breswyl Drochol ddwys hon yn rhoi cefnogaeth am fis cyfan i’r ymgeiswyr a ddewisir. Bydd cyfle i ymarferwyr weithio yng ngofod cryndo CULTVR am rhwng 5-7 diwrnod (gall y cyfnod fod yn un bloc parhaus o ddyddiau, neu’n gyfres o ddyddiau unigol yn ystod y mis). Gellir gweithio o bell yn ystod y mis os dymunir. Byddwn yn asesu anghenion pob prosiect a’r amserlen a gyflwynir ar eu cyfer wrth rannu’r adnoddau sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, darllenwch y canllawiau llawn i sicrhau bod eich prosiect yn ateb gofynion amcanion y rhaglen.
Yn ogystal, gallwch lawrlwytho templed ar gyfer eich cyllideb a’ch amserlen i’ch helpu i strwythuro eich cynlluniau ariannol wrth baratoi eich cais.
Pan rydych yn barod, dilynwch y ddolen isod i anfon eich cais.

RHAGLEN SIOEAU ARDDANGOS REALITI YMESTYNNOL (XR) BYW 2025
Mae’r alwad agored yma’n gwahodd ceisiadau gan artistiaid, sefydliadau a mentrau cydweithio sy’n byw a gweithio yng Nghymru. Byddwn yn dewis chwech o brosiectau i brototeipio a chyflwyno gwaith mewn cyfnod byr yn ein cryndo trochol hyblyg.
Nod ein rhaglen sioeau arddangos yw gwneud ein hadnoddau’n fwy hygyrch i artistiaid, a’u galluogi i ddefnyddio ein hadnoddau i gyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd.
Un o brif amcanion y rhaglen hon yw chwalu’r rhwystrau sy’n cadw ymarferwyr creadigol ac artistiaid rhag ymgysylltu â chelfyddydau trochol a meithrin amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiad ym maes y celfyddydau trochol. Yn ogystal, rydyn ni am rymuso artistiaid i archwilio a defnyddio cyfryngau digidol i fynegi eu creadigrwydd a sicrhau eu bod yn gallu ymgysylltu â thirlun o fynegiant creadigol sy’n esblygu’n gyflym a chyfrannu iddo.
Mae’r rhaglen sioeau arddangos hon yn gyfle gwych i brofi cysyniad creadigol sy’n bodoli’n barod neu gysyniad creadigol newydd sbon o flaen cynulleidfaoedd byw – gan sicrhau adborth gwerthfawr. Ein nod yw darparu’r adnoddau a’r gofod i’ch helpu i ddatblygu eich gweledigaeth ymhellach ac arddangos eich prosiect.
Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, darllenwch y canllawiau llawn i sicrhau bod eich prosiect yn ateb gofynion amcanion y rhaglen.
Pan rydych yn barod, dilynwch y ddolen isod i anfon eich cais.
