Skip to content

ACADEMI

rhaglen addysg

Nod rhaglen addysgol CULTVR yw datgloi’r potensial i arloesi a datblygu’r gallu i feithrin sgiliau arbenigol gan bontio’r bwlch rhwng mynediad at dechnolegau allweddol a’r gallu i’w rhoi ar waith i hybu twf y sector trochol mewn amgylchedd cydweithredol.

Rydyn ni’n cynnal cyrsiau a gweithdai ar bynciau fel ffilmio lluniau byw, Graffigwaith Cyfrifiadurol, sain ambisonig, adrodd straeon a thechnegau cynhyrchu 360°. Hefyd mae gan CULTVR ei offeryn addysgol ei hun sef ein ‘Canllaw A i Y’ – darlith ryngweithiol sy’n rhoi cipolwg ar hanfodion y cyfrwng cryndo amgylchynol ( y cymlethdodau, y derminoleg a’r cysyniadau allweddol).

Mae aelodau o dîm y Labordy yn cael eu croesawu’n gyson fel darlithwyr gwadd mewn amryw o sefydliadau academaidd ac yn cymryd rhan mewn arddangosiadau mewn cynadleddau a digwyddiadau rhyngwladol.

Gyda Chefnogaeth Cymru Greadigol drwy’r Gronfa Sgiliau Creadigol, bydd rhaglen ‘Datgloi Realiti Ymestynnol’ yn cael ei chyflawni gan Labordy CULTVR.

Dros y 10 mis nesaf, bydd 4Pi Productions yn gweithio gyda sefydliadau addysg blaenllaw gan gynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. Drwy’r partneriaethau hyn, mae’r rhaglen yn anelu i rymuso gweithwyr creadigol traws-ddisgyblaeth a rhoi’r sgiliau hanfodol iddyn nhw archwilio technoleg Realiti Ymestynnol a’i ddefnyddio ym meysydd adloniant, digwyddiadau byw, cerddoriaeth, animeiddio, ffilm, Effeithiau Gweledol (VFX) a chynhyrchu rhithwir.