Skip to content
virtual-exhibitions

ARDDANGOSFEYDD RHITHWIR

Lansio trydydd cymal ein rhaglen CATALYDD 360º gyda chystadleuaeth gyhoeddus.

Rydyn ni wedi creu ein canolfan rithiol ein hunain – porth ar-lein a chynfas rhithwir lle’r ydym yn cyflwyno gwaith y 6 artist a gafodd eu dewis fel rhan o’n menter ‘Arddangosfeydd Rhithwir’. Cafodd y prosiect cyfan ei gynnal o bell, a bu’n gyfrwng i’r 6 artist gydweithio gyda thîm dylunio rhyngweithiol 4Pi i greu eu harddangosfa ddelfrydol – heb orfod ystyried na phoeni am rwystrau ffisegol nac ariannol.

Mae’r bleidlais ar gyfer cystadleuaeth ar-lein rithwir CATALYDD 360º yn agor yn swyddogol ddydd Mawrth 31 Mai. Mae gyda chi tan ganol dydd, ddydd Iau 30 Mehefin i fwrw’ch pleidlais drwy ein cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn cyhoeddi enw’r artist buddugol ddydd Gwener 01 Gorffennaf am ganol dydd ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r 6 arddangosfa rithwir ar agor NAWR.