Skip to content
CULTVR-NBCuniversal(1)

Dadorchuddio’r dyfodol: Prynhawn gyda NBCUniversal

Ymunwch â Media Cymru am brynhawn o rwydweithio a rhannu gwybodaeth gyda Greg Reed, Is-lywydd Partneriaethau Technoleg NBCUniversal – arweinydd byd-eang mewn adnabod a meithrin partneriaethau technoleg strategol.

Yn ystod y sesiwn hon bydd Greg yn rhannu ei fewnwelediad ar:

  • Y Dirwedd Esblygol Dosbarthu ac Ymgysylltu â Chynulleidfa: Darganfyddwch sut mae NBC/Universal yn ymdrin â thirwedd y cyfryngau sy’n newid o hyd, gan archwilio sianeli dosbarthu newydd a strategaethau ymgysylltu â chynulleidfa.
  • Technolegau Newydd sy’n Llunio Adloniant: Dysgwch am y technolegau diweddaraf sy’n effeithio ar y diwydiant adloniant, o ddeallusrwydd artiffisial i realiti rhithwir.
  • Cydweithio ac Arloesi: Archwiliwch sut mae NBC/Universal yn creu partneriaethau gyda busnesau newydd a chwmnïau technoleg i ysgogi arloesedd a chreu profiadau adloniant sy’n torri tir newydd.

Mae’r sesiwn hon yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y cyfryngau ac adloniant, p’un a ydych chi’n fentwr technoleg, yn grëwr cynnwys neu’n weithiwr proffesiynol yn y cyfryngau sy’n edrych i rwydweithio ag unigolion tebyg – ni fyddwch am golli hyn!

17.06.2024
1pm – 4pm
DARLLENWCH FWY A GWNEWCH GAIS