Ymunwch â ni ar gyfer perfformiad byw arbennig gydag elfennau gweledol a ffilm 360° i ddathlu lansio Elan, albwm diweddaraf The Gentle Good. Bydd y profiad clyweledol unigryw yma’n dod â cherddoriaeth a themau Elan yn fyw gan eich trochi yng nghyfoeth storïol a seinweddau atmosfferig yr albwm.
Cafodd yr albwm ei sgwennu yn ystod preswyliad blwyddyn mewn bwthyn diarffordd yn ardal Mynyddoedd Cambria. Hwn yw gwaith diweddaraf The Gentle Good, sef prosiect cerddorol y cyfansoddwr ac artist gwerin gwobrwyedig, Gareth Bonello. Mae Gareth yn nodedig am ei gerddoriaeth gywrain a’i arddull storïol gyfareddol sy’n plethu dylanwadau gwerin traddodiadol ag elfennau cyfoes i greu tirluniau cerddorol hudolus.
Mae’r albwm yn cyflwyno portread seicadelig o Gwm Elan ym Mhowys yng Nghanolbarth Cymru – gyda chaneuon yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n archwilio tirlun rhyfeddol, hanes cymleth ac arwyddocad gwleidyddol y cwm, a foddwyd yn niwedd Oes Fictoria i gyflenwi dŵr i ddinas Birmingham.
Dyma gyfle arbennig i rannu’r perfformiad agos-atoch yma a fydd hefyd yn cynnwys y pedwarawd llinynnol, The Mavron Quartet. Dan arweiniad Christiana Mavron, maent wedi ennill bri am berfformiadau cerddorol eithriadol – fel y mae hanes eu perfformiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos.
Bydd Laura J Martin yn agor y noson, gyda’i chyfuniad deinamig o lais, ffliwt ac offer electronig. Mae hi wedi teithio ledled y DU ac Ewrop gyda’i sioe fyw gyfareddol, gan rannu llwyfan gydag artistiaid fel P J Harvey, Teenage Fanclub a Cate Le Bon.
Elfennau Gweledol gan: 4Pi Productions.
Mae’r profiad trochol yma wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Refeniw Cerddoriaeth Cymru Greadigol a chronfa PPL Momentum Music Fund.
17 Mai 2025
Drysau’n agor: 7pm
Laura J Martin: 7:30pm
The Gentle Good: 8:30pm
Diwedd: 10:30pm
TOCYNNAU CYNTAF I’R FELIN: £17.50 (ar gael tan 28 Chwefror, neu hyd nes y gwerthir y tocynnau sydd wedi’u neilltuo)
THE GENTLE GOOD / LANSIO ALBWM NEWYDD – ‘ELAN’
TOCYNNAU - £17.50 - £22.50

Tocynnau: £19.50 – £22.50