Skip to content
UPDATED SLC-Cultvr copy

SLOWLY ROLLING CAMERA – 10FED PEN-BLWYDD

Perfformiad trochol byw i ddathlu 10fed penblwydd Slowly Rolling Camera gydag elfennau gweledol 360º gan 4Pi Productions.

Ymunwch â ni ar gyfer perfformiad byw arbennig gan Slowly Rolling Camera sy’n dathlu 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf. Yn ystod haf eleni byddant yn rhyddhau ‘Silver Shadow’ – eu chweched albwm stiwdio. Bydd y perfformiad byw arbennig yma’n amgylchynu’r gynulleidfa gyda’r cydadwaith deinamig rhwng melodiau cyfareddol ac elfennau gweledol sinematig.

Caiff ethos cydweithio’r band ei yrru gan yr aelodau craidd – Dave Stapleton, Deri Roberts ac Elliot Bennett – ar y cyd ag ensemble trawiadol o gerddorion gan gynnwys Jon Goode ar y bass, Josh Arcoleo ar y sacsoffon, a Sturat McCallum ar y gitâr. Mae arddull unigryw a dwyster emosiynol y band wedi ennyn cymhariaethau â bandiau eiconig fel The Cinematic Orchestra a GoGo Penguin yn ogystal â chlod a chariad o bob cwr, gan gynnwys The Guardian a Crack Magazine ymysg eraill.

I gyd-fynd â’r perfformiad, mae cwmni nodedig 4Pi Productions wedi creu sgôr trochol gweledol arbennig. Nod y perfformiad Realiti Ymestynnol (XR) yma yw gwthio ffiniau posibiliadau dulliau o adrodd straeon mewn gofodau perfformio trochol; cafodd ei ysbrydoli gan y cydadwaith rhwng y gweledol a’r cerddorol mewn delweddau symudol.

 

DANGOSIAD FFILM: THE RIVER OF MIRRORS

Cyn y perfformiad byw byddwn yn dangos y ffilm, The River of Mirrors, sy’n adleisio arddull ac enaid ffilmiau syrffio arloesol y 1970au. Mae’n cyflwyno profiad sinematig o chwaraeon padlo-drwy-ddŵr sy’n edrych y tu hwnt i adrenalin ac ego, gyda sgôr sain gan Slowly Rolling Camera. Llythyr serch i ddŵr gwyllt, a ffilm kayak hollol unigryw.

Cyfarwyddwyd gan: Joseph Fender and Joe Rea-Dickins
Gyda: Joseph Fender, Lauren Strickland, Jem Howe
Cerddoriaeth: Slowly Rolling Camera


6ed Rhagfyr 2024

Drysau’n agor: 7pm
Amser dechrau: 7.30pm
Amser gorffen: 10.30pm