Mae menter gydweithredol Bubblewrap yn falch i gyflwyno lansiad EP newydd Ritual Cloack – ‘Vanished in Transition’.
Aelodau Ritual Cloak yw Daniel Barnett (gynt o’r Samoans) a’r drymiwr/cynhyrchydd, Andrew Sanders. Er eu bod yn dod o gefndir roc yn bennaf, mae’r ddeuawd wedi cychwyn ar drywydd cerddorol newydd drwy greu seinweddau amgylchol a arweinir gan biano gyda churiadau tecno minimal, ac mae cariad y ddau o ffuglen wyddonol yn ddylanwad amlwg hefyd.
Mae gan yr EP newydd yma naws fwy mewnsyllgar a myfyriol wrth i Ritual Cloak ddilyn trywydd cerddorol newydd sy’n tynnu ar ddylanwadau fel cerddoriaeth amgylchol, jazz, metal ‘doom’ ac archwiliadau George Harrison o ddiwylliant a cherddoriaeth India. Wrth droi’n gynyddol at rythmau tempo isel, maen nhw’n cyfnewid drymiau am guriadau calon – fel petai’r ddau ohonynt yn anadlu’n ddwfn ar yr EP yma wrth baratoi am gamau nesa’r daith.
Bydd Ritual Cloak yn perfformio’r EP gyfan yn fyw, ynghyd â detholiad o draciau o’u hôl-gatalog mewn sioe glyweledol drochol unigryw o dan ein cryndo 360º.
RITUAL CLOAK – LANSIO EP NEWYDD
TICKETS - £10 / £8 CONCESSION

Bydd Teddy Hunter yn cefnogi.