
Quiet River of Dust Vol 1 / Vol 2
Richard Reed Parry
SINEMA 360º
Yn nwy ran ‘Quiet River of Dust’ mae Richard Reed Parry yn creu byd cerddorol a gweledol archwiliadol sy’n ein hamgylchynu, ein lleddfu a’n bwrw yn dyner oddi ar ein hechel a gofyn: ble mae’r hunan yn dod i ben, a ble mae’r byd o’n cwmpas yn dechrau?
Ymunwch â ni am sgriniad arbennig a fydd yn cyflwyno fersiynau trochol o’r ddau albwm gyda’i gilydd am y tro cyntaf; profiad lle mae’r elfennau gweledol 360º yn mynd law yn llaw â’r gerddoriaeth, gan ein cario i bwynt lle mae’r ffiniau rhwng yr hunan a’r byd mor dreiddadwy nes peri dryswch hudolus.
Mae Richard Reed Parry yn gerddor amryddawn sy’n chwarae sawl offeryn, ac yn aelod craidd o Arcade Fire. Cyfansoddodd y gweithiau hyn yn dilyn taith i Japan yn 2008. Bu’r profiad yn agoriad llygad, ac ar un pwynt cafodd ei hun mewn ffynnon dwym ger ‘Afon Marwolaeth’ – profiad a fu’n sbardun iddo ddechrau llunio stori…
Mae dwy ran Quiet River of Dust yn digwydd ar y naill ochr a’r llall i afon fetaffisegol ddychmygol.
Yn ‘Vol 1: This Side of the River’ rydyn ni ym mherfeddion coedwig gyfriniol yn profi deffroad mawr, gan gychwyn ar daith ar droed drwy fyd gwyrddlas o fwsogl, coed, ysbrydion a chreaduriaid. Yna, cawn brofi’r foment pan fo gronynnau ein corff yn toddi a dod yn rhan o wead y byd o’n cwmpas.
Yn ‘Vol 2: That Side of the River’, rydyn ni’n cychwyn ar ein siwrne rhywle ar hyd y rhaniad mawr….yn y dŵr mewn man cyfrin, ym mro breuddwydion y cof a’r isymwybod – rhywle rhwng y byd ffisegol a’r byd tu hwnt.
Mae’r lleoliadau go iawn a welir yn yr elfennau gweledol 360º yn cynnwys coedwigoedd ar Ynys Mull yn yr Alban a Vermont, afonydd yn yr Almaen ac ym Mynyddoedd Laurentaidd Quebec, cefnforoedd yn Cape Cod, Portiwgal a Norwy, a’r tu mewn i foncyffion coed yn Japan – y cyfan wedi’i ffilmio i greu un byd macrocosmig/microcosmig sy’n teimlo’n gyfarwydd a dieithr ar yr un pryd.
Lluniwyd a Chynhyrchwyd gan: Richard Reed Parry a Ryhna Thompson.
Cyfarwyddwyd gan: JF Lalonde & Richard Reed Parry.
Ffilmiwyd gan: Richard Reed Parry.
Cynllunydd Symudiad a Chyfarwyddwr Cynorthwyol: Christelle Bellini.
Perfformir y gerddoriaeth gan: Richard Reed Parry, Laurel Sprengelmeyer, Stefan Schneider, Corwin Fox a Jordy Walker.
Perfformwyr ychwanegol: Aaron Dessner, Bryce Dessner, Dallas Good, Yuka Honda, Caroline Shaw, Stuart Bogie, Nico Muhly, Amedeo Pace, Pietro Amato, The Friends of Fiddlers Green: Ian Robb, Grit Laskin, Alistair Brown, Laurence Stevenson, Geoff McClintock, Ian Bell, Adam Brown.
Cynhyrchydd: Ryhna Thompson.
Cafodd y prosiect yma ei gefnogi gan raglen greu gweithiau y Society for Arts and Technology (SAT).