Cyfle arbennig a phrofiad trochol cwbl unigryw wrth i ni gyflwyno The Dark Side of the Moon gan Pink Floyd yn ein sinema 360º.
Oherwydd y galw aruthrol, mae’r cynhyrchiad yma sydd wedi ennill clod rhyngwladol ac sy’n mynd â’r gynulleidfa ar siwrne drochol glyweledol hynod yn dychwelyd i Gymru.
Eleni mae albwm eiconig Pink Floyd, ‘The Dark Side of the Moon’, a ryddhawyd ym mis Mawrth 1973, yn 50 oed. A pha le gwell i’w ddathlu a’i brofi nag mewn sinema 360º lle caiff y gerddoriaeth ei blethu gydag elfennau gweledol hynod? Gyda help technoleg fodern, mae’r band wedi croesawu’r syniad o sioe sy’n cyfuno golygfeydd aruthrol o gysawd yr haul (solar system) a thu hwnt â thraciau ‘The Dark Side of the Moon’ yn cael eu chwarae drwy system sain oddi-amgylch. Cafodd y gwaith o gynhyrchu’r elfennau gweledol ei lywio gan gwmni NSC Creative mewn cydweithrediad agos ag un o gydweithiwr creadigol hynaf Pink Floyd, Aubry Powell o Hipgnosis.
Mae gan bob cân thema wahanol; mae rhai’n ddyfodolaidd a thra modern, ac mae rhai’n bwrw golwg retro yn ôl ar hanes gweledol Pink Floyd. Wrth edrych yn ôl neu ymlaen mae pob un ohonynt yn uniaethu â phrofiad o amser a lle gan fanteision’n llawn ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ond ar gael mewn sinema 360º. Bydd hwn yn brofiad clywedol a gweledol gwirioneddol drochol, hollgynhwysol ac ysgubol a fydd yn esgyn uwchlaw realiti a’ch cario ymhell y tu hwnt i brofiadau 2D.
3rd May 2025 / 4pm
16th May 2025 / 6:30pm
Hyd y rhaglen – tua 45 munud
*Rhaid i fynychwyr iau nag 16 oed ddod gyda rhiant neu warcheidwad
Pink Floyd / THE DARK SIDE OF THE MOON
TOCYNNAU - £19- £21.50

Tocynnau: £21.50 / Gostyngiadau: £19