Dewch i ddathlu albwm eiconig Pink Floyd, The Dark Side of the Moon, a rhannu profiad trochol rhyfeddol yn ein sinema 360º
Am y tro cyntaf erioed yng Nghymru… Y ffenomenon ryngwladol ysgubol Pink Floyd – The Dark Side of the Moon
Eleni mae albwm eiconig Pink Floyd, ‘The Dark Side of the Moon’, a ryddhawyd ym mis Mawrth 1973, yn 50 oed. A pha le gwell i’w ddathlu a’i brofi nag mewn sinema 360º lle caiff y gerddoriaeth ei blethu gydag elfennau gweledol hynod? Gyda help technoleg fodern, mae’r band wedi croesawu’r syniad o sioe sy’n cyfuno golygfeydd aruthrol o gysawd yr haul (solar system) a thu hwnt â thraciau ‘The Dark Side of the Moon’ yn cael eu chwarae drwy system sain oddi-amgylch. Cafodd y gwaith o gynhyrchu’r elfennau gweledol ei lywio gan gwmni NSC Creative mewn cydweithrediad agos ag un o gydweithiwr creadigol hynaf Pink Floyd, Aubry Powell o Hipgnosis.
Mae gan bob cân thema wahanol; mae rhai’n ddyfodolaidd a thra modern, ac mae rhai’n bwrw golwg retro yn ôl ar hanes gweledol Pink Floyd. Wrth edrych yn ôl neu ymlaen mae pob un ohonynt yn uniaethu â phrofiad o amser a lle gan fanteision’n llawn ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ond ar gael mewn sinema 360º. Bydd hwn yn brofiad clywedol a gweledol gwirioneddol drochol, hollgynhwysol ac ysgubol a fydd yn esgyn uwchlaw realiti a’ch cario ymhell y tu hwnt i brofiadau 2D.
08.11.10 – 28.12
GWEN / SAD
4 pm / 9.45pm
Hyd y rhaglen – tua 45 munud
*Rhaid i fynychwyr iau nag 16 oed ddod gyda rhiant neu warcheidwad
Pink Floyd / THE DARK SIDE OF THE MOON
TOCYNNAU - £17.50 - £19.50

Tocynnau: £19.50 / Gostyngiadau: £17