Skip to content
CULTVR_FDUK_PARALLAX

PARALLAX – FDUK 2023 AFTERPARTY

TOCYNNAU - £14.50

PARALLAX – FDUK 2023 AFTERPARTY

Ymunwch â ni ar gyfer parti wedi’r sioe gŵyl FDUK23 – Dydd Sadwrn Hydref 14. Rydyn ni’n falch iawn i gynnal gŵyl gelfyddydau cryndo amgylchynol trochol fwyaf y D.U. Bydd yn gyfle gwych i artistiaid, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr ffilm a thechnolegwyr sy’n angerddol am greu profiadau cryndo amgylchynol i ddod at ei gilydd.

I ddathlu’r digwyddiad arbennig yma, mae’n fraint gan Labordy CULTVR a Motel Nights i gyflwyno PARALLAX. Mae’n mynd i fod yn noson fythgofiadwy – gyda cherddoriaeth gyfareddol gan Pamoja Disco Club a champweithiau gweledol gan VJs byd-enwog o Frasil, Portiwgal, Sbaen a’r D.U.

Brysiwch i fachu eich tocynnau heddiw – dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Peidiwch â cholli cyfle i brofi’r dathliad unigryw yma o gelf, technoleg a cherddoriaeth o dan ein cryndo.

 

Dyddiad: 14 Hydref 2023
Amser: 23.00pm – 02.30am
Tocynnau: £14.50
Bargen Gynnar: £12