Ymunwch â chrewyr cydweithredol MWSOG ar gyfer breuddwyd glyweledol sy’n gwysio ymdeimlad dwfn o hiraeth, gan ddilyn trywydd ar hyd ac ar led amser a myfyrio ar drobwyntiau arwyddocaol yn nhraddodiad tir a mydryddiaeth Cymru.
Bydd y perfformiad trochol hynod yma’n plethu cerddoriaeth fyw, barddoniaeth a symudiad gydag elfennau gweledol 360° trawiadol yng nghryndo CULTVR. Mae’n berfformiad wedi’i wreiddio yn iaith a llên gwerin Cymru gan gyfuno atgof personol, cof diwylliannol a rhythmau hynafiadol i gysylltu’r gynulleidfa â’r tirweddau, lleisiau a straeon sydd wedi ffurfio Cymru.
Cyflwynir y perfformiad gan gasgliad o artistiaid a chrewyr amrywiol o ledled Cymru (a thu hwnt). Mae’n ddigwyddiad sy’n tynnu ar ein hetifeddiaeth gyffredin ac amrywiaeth o arferion creadigol i ail-ddychmygu hen draddodiadau mewn modd eofn a chyfoes. Drwy ymdaith ddefodol, cyfansoddiadau gwreiddiol a delweddiaeth sinematig, mae MWSOG yn cynnig profiad synhwyraidd sy’n fyfyriol a gweledigaethol.
Camwch i mewn i fynegiad byw o Gymru lle mae’r gorffennol yn cwrdd â’r presenol i freuddwydio dyfodol y gall pawb ei rannu.
Cafodd y prosiect yma’i ddewis i fod yn rhan o raglen Catalydd 360º sy’n cael ei gyflwyno gan CULTVR gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
21 Mehefin 2025
Drysau’n agor: 7pm
Perfformiad yn dechrau am: 7.30pm
Perfformiad yn gorffen am: 11.30pm
MWSOG / HEULDRO’R HAF
TOCYNNAU - £12.50 - £16.50
HEULDRO’R HAF