Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy wrth i CULTVR agor ei ddrysau i Mr Scruff am Set DJ cwbl unigryw.
Mae Mr Scruff yn DJ, cynhyrchydd, cartwnydd ac anturiwr cerddorol chwedlonol o Fanceinion â thros dri degawd tu ôl i’r deciau. Mae wedi ennill bri am setiau sy’n llifo’n esmwyth rhwng genres – o soul i ffync, ac o reggae i house a techno. Mae Mr Scruff yn creu siwrneiau sain unigryw gan diwnio pob perfformiad i’r dorf sydd o’i flaen. Mae’n teithio’r byd gyda’i gymysgydd a’i uned effeithiau unigryw, pentwr anhygoel o finyl, peirianydd sain, ac weithiau…wyau wedi berwi.
Ar gyfer y perfformiad yma yn CULTVR, bydd dau o’u gyd-artistiaid amlycaf yn ymuno ag ef, sef MC Kwasi a VJ Jim a fydd yn ychwanegu llif geiriau egnïol a rhyfeddodau gweledol i noson drochol arbennig iawn yn ein cryndo. Byddwch yn barod am gyfuniad o ddawnsio, traciau o’r ymylon a thafluniadau deinamig – y cyfan yn llenwi’r cryndo i’r eithaf a’i droi’n un cymysgedd glyweledol fawr bendigedig.
Ac rydyn ni’n agor ein drysau’n gynnar ar gyfer ‘parti cyn y parti’ yn ein gardd hefyd, gyda Pamoja Disco Club o Gaerdydd – criw cydweithredol sydd wedi ennill bri am gynhesu lloriau dawns gyda chyfuniad o jazz, boogie, curiadau affro a grŵfs byd-eang; a’r anhygoel Sarah Sweeny sydd wedi bod yn troelli cymysgedd gyfoethog o ffync, disgo, hip-hop a house ers dros 25 mlynedd.
Dewch yn gynnar, prynwch ddiod a gadewch i’r miwsig eich cario. A gyda llaw – bydd detholiad o bastai ar gael ar y noson hefyd.
18 Gorffennaf
Drysau’n agor: 5pm Pamoja Disco Club + Sarah Sweeney: 5.30pm i 8pm Mr Scruff: 8.30pm Gorffen: 11.30pm
Mae hwn yn ddigwyddiad 18+
Tocynnau Cynnar £25 / Tocynnau Cyffredinol £27.50 / Tocynnau ar y Drws £30
Mr. Scruff / Disco Tatws 360º
GET TICKETS - £25 - £30

Drysau’n agor: 5pm
Pamoja Disco Club + Sarah Sweeney: 5.30pm i 8pm
Mr Scruff: 8.30pm
Gorffen: 11.30pm