Mae rhaglen Labordai Trochol yn dod ag artistiaid o ddisgyblaethau gwahanol at ei gilydd i gydweithio a chyd-greu prototeipiau o weithiau cryndo amgylchynol a gweithiau clyweledol trochol. Drwy gyfuno elfennau o ymchwil yn deillio o breswyliad artistig, arbrofi uniongyrchol a dysgu gan gydweithwyr mae’r rhaglen yn creu amgylchedd agored ar gyfer arloesi ym maes cyflwyno straeon trochol a chelfyddydau digidol.
Dydd Gwener 20 Chwefror 2026
Amserlen 17:30 – Drysau’n agor 18:30 – Croeso a Chyflwyniadau (SAT, CULTVR, partneriaid) 19:00 – Cyflwyno’r prosiectau, cyflwyniadau gan yr artistiaid a sesiwn Holi ac Ateb 20:30 – Sesiwn rhwydweithio i gloi
🎟 Mynediad am ddim drwy RSVP – nifer cyfyngedig
Bydd y rhaglen yn dod i uchafbwynt gyda sioe arddangos gyhoeddus, a gwahoddiad i gynulleidfaoedd ymuno â ni i weld ffrwyth llafur y broses o ddatblygu gweithiau a chyflwyniadau trochol yn ogystal â rhannu profiadau’r artistiaid drwy gyflwyniadau a sgyrsiau.
Mae rhaglen Labordai Trochol 2026 yn fenter ar y cyd rhwng Society for Arts & Technology yn Quebec a CULTVR yng Nghaerdydd. Yr artistiaid sy’n cymryd rhan eleni yw: Benedicte a Milo Reinhardt (Quebec), a Teddy Hunter, Mark Eaglen, Nick Feldman, Natalie Roe, Nic Finch, Jasper Golding ac Adam Martin (Cymru).
Rhaglen Labordai Trochol + Q&A
Book your ticket - Free entry
Rhaglen Labordai Trochol
Mae rhaglen Labordai Trochol yn dod ag artistiaid o ddisgyblaethau gwahanol at ei gilydd i gydweithio a chyd-greu prototeipiau o weithiau cryndo amgylchynol a gweithiau clyweledol trochol. Drwy gyfuno elfennau o ymchwil yn deillio o breswyliad artistig, arbrofi uniongyrchol a dysgu gan gydweithwyr mae’r rhaglen yn creu amgylchedd agored ar gyfer arloesi ym maes cyflwyno straeon trochol a chelfyddydau digidol.
Dydd Gwener 20 Chwefror 2026
Amserlen
17:30 – Drysau’n agor
18:30 – Croeso a Chyflwyniadau (SAT, CULTVR, partneriaid)
19:00 – Cyflwyno’r prosiectau, cyflwyniadau gan yr artistiaid a sesiwn Holi ac Ateb
20:30 – Sesiwn rhwydweithio i gloi
🎟 Mynediad am ddim drwy RSVP – nifer cyfyngedig
Cafodd y fenter ei datblygu’n wreiddiol gan AADN – Arts et Cultures Numériques (Lyon, Ffrainc) fel rhaglen hybrid yn cyfuno elfennau o breswyliad artistig, hacathon creadigol a labordy hyfforddi gwib. Nod y rhaglen yw hybu arbrofi, cyfnewid gwybodaeth a chydweithio rhwng artistiaid sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau – o gelfyddydau gweledol, cerddoriaeth, a chynllunio sain i gyfryngau rhyngweithiol.
Cafodd rhaglen 2025 ei chynnal gan Society for Arts and Technology (SAT) yn Montréal, gan ddod ag artistiaid a phartneriaid o Ffrainc, Canada, Taiwan, Brasil a Chymru at ei gilydd. Eleni, mae’r rhaglen yn dychwelyd i Labordy CULTVR yng Nghaerdydd.