Mae gwahoddiad cynnes i chi ymuno â ni ar gyfer noson o gerddoriaeth wych a gwefreiddiol yng nghwmni HMS Morris a’u ffrind o Ynys Eigg, Pictish Trail
Mae HMS Morris, y grŵp art-rock dwyieithog grymus o Gaerdydd, wedi ennill bri am eu sioeau byw arloesol a gafaelgar. Roedd 2024 yn flwyddyn nodedig i’r band. Fe berfformion nhw bedair sioe yn SXSW yn Texas, a chyflwyno sioe anhygoel yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd (un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy’r ŵyl) yn ogystal â chael eu henwebu (am y trydydd tro) ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a pherfformio’n fyw yn y seremoni.
Cafodd ei halbwm ‘Dollar Lizard Money Zombie’ (DLMZ) ei lansio yn CULTVR – a oedd dan ei sang. Ers hynny maen nhw wedi bod ar dair taith ysgubol o lwyddiannus yn perfformio’r albwm. Mae DLMZ wedi ennill clod a bri ac wedi’i gynnwys ar restr sawl gwobr gan hoelio statws HMS MORRIS fel un o fandiau mwyaf nodedig y sîn gerddoriaeth yng Nghymru ac un o fandiau mwyaf cyffrous y DU. Mae pob copi (finyl a cd) o DLMZ wedi’i werthu bellach, a gyda’u caneuon yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio cenedlaethol a rhyngwladol does dim arwydd bod momentwm y band yn arafu.
Bydd Pictish Trail yn dod â dimensiwn hollol wahanol i’r noson. Mae e’n artist hynod sydd wedi torri ei lwybr ei hun, gan greu catalog unigryw o recordiadau a pherfformiadau ac anwybyddu trefn arferol canwyr-cyfansoddwyr o wneud pethau. Mae ei waith a’i yrfa yn flêr ac yn fendigedig ac yn gwbl gyfareddol. Mae Pitcish Trail wedi teithio’r byd – fel prif berfformiwr yn ogystal â chefnogi artistiaid fel Belle and Sebastian, Pavement, Mogwai, Sea Power, Slow Club a KT Tunstall. Mae wedi perfformio mewn llu o wyliau cerddorol gan gynnwys Glastonbury, Field Day, Bestival, Deer Shed, Celtic Connections, Gŵyl Ffrinj Caeredin a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Mae’r profiad trochol yma’n cael ei gefnogi gan Cymru Greadigol a Bubblewrap Collective.
26 Ebrill 2025
Drysau’n agor: 7:30pm
Perfformiad yn dechrau am: 8:30pm
Gorffen: 10:30pm
Mae hwn yn ddigwyddiad 18+
TOCYNNAU CYNTAF I’R FELIN: £17.50 (ar gael tan 28 Chwefror, neu hyd nes y gwerthir y tocynnau sydd wedi’u neilltuo)
HMS Morris a Pictish Trail
TOCYNNAU - £17.50 - £22.50