Skip to content
FDUK-24-Header CMCF

Now Ymunwch â ni ar gyfer Sioe Arddangos Drochol Fyw FDUK 2024 – yn cael ei chyflwyno gan Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Byddwch yn barod am noson gwbl unigryw wrth i ni gyflwyno casgliad anhygoel o artistiaid gan gynnwys yr amryddawn Beardyman a’r cyfareddol Teddy Hunter, ynghyd â setiau DJ a VJ gan João Saramago and Andrew Wagstaff.

Mae Darren Alexander Foreman, neu Beardyman fel mae’n fwy adnabyddus, yn un o arwyr y sîn bîtbocsio ym Mhrydain ac yn ddolenwr a cherddor amryddawn. Bydd yn cyflwyno Profiad Amgylchynol Sain Weledol Arbrofol yng nghryndo CULTVR.

Mae Teddy Hunter yn artist sain weledol a cherddor electronig o Gaerdydd sy’n creu a chyfansoddi ym maes cerddoriaeth amgen a sain trochol. Bydd hi’n perfformio gyda’i band a gydag elfennau gweledol 360° gan Chameleonic.

Bydd João Saramago ag Andrew Wagstaff yn cyflwyno Heartbeats, gan gyfuno darlunio byw yn y cryndo gyda set finyl o gerddoriaeth electronig.

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn falch o gefnogi’r digwyddiad arbennig yma, sy’n dathlu sîn gerddoriaeth egnïol a byrlymus Caerdydd. Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi’r dathliad unigryw yma o gelf, technoleg a cherddoriaeth yn ein cryndo trochol.

Dyddiad:12 Hydref 2024
Amser: 9.30pm – 2.30am
Drysau’n Agor am: 9pm
Tocynnau: £12.50 Mynediad Cyffredinol / £15 wrth y drws
Tocynnau Cynnar: £9.50 (ar gael tan 30 Medi, neu hyd nes bydd y tocynnau dyranedig wedi gwerthu allan)
18+