Skip to content
240816_DJ-YODA-1920x1080 M

Mae DJ Yoda yn dychwelyd i CULTVR i gyflwyno’r perfformiad XR byw: 50 Mlynedd o Hip-Hop. Nid noson glwb gyffredin yw’r digwyddiad hwn; mae’n brofiad trochi sy’n cyfuno’r gorau o gerddoriaeth hip-hop gyda delweddau 360º. Bydd DJ Yoda yn cyflwyno rhai o draciau mwyaf eiconig y genre, gan nodi’r tro cyntaf i set AV hollol drochol wedi’i chysegru i hip-hop gael ei harddangos yn y DU.

Mae DJ Yoda yn DJ hip-hop a chynhyrchydd amlwg arobryn, yn perfformio fel prif artist mewn gwyliau a chlybiau ledled y byd. Nid DJ clwb arferol mohono, mae ganddo ddiddordeb mewn darganfod ffyrdd ffres ac unigryw i ddod â’r turntables allan o’r clwb a chymryd rhan mewn cydweithrediadau pwrpasol. Gan weithio gyda chyfansoddwyr clasurol i niwrowyddonwyr; bandiau pres i gyfarwyddwyr ffilm; Dr Dre i Dame Evelyn Glennie; Banksy i Mark Ronson; BBC Radio 4 i’r BFI, mae’n rhoi bywyd newydd i’w grefft gyda dyfeisgarwch craff ac ysbryd hiwmor.

Mae DJ Yoda yn parhau i wthio ffiniau perfformiadau byw, ac mae’r sesiwn dom arbennig hon gyda delweddau byw 360º yn cael ei chreu mewn cydweithrediad â’r stiwdio arobryn 4Pi Productions.

7fed Chwefror 2025
Drysau’n agor: 8:30pm
Dj Yoda: 9.30pm
Amser gorffen: 11pm
CULTVR yn cau: 12am

Mynediad Cyffredinol: £21.50
Ar y drws: £25
PRYNU TOCYNNAU YMA