Skip to content
16.9 DINOSAURS_Panoramic_01 copy

Dinosaurs, Stori o oroesi

Ffilm animeiddiedig addas i’r teulu i gyd, yn archwilio taith ddiddorol esblygiad bywyd.

Fel bron pob plentyn, mae Celeste wedi’i swyno gan ddeinosoriaid. Mae hi’n paratoi sgwrs ar gyfer ei dosbarth am sut y diflanodd y deinosoriaid pan fydd Moon, cymeriad doeth ac hudol iawn, yn gofyn cwestiwn cyffrous: beth pe bawn i’n dweud wrthych fod deinosoriaid yn dal i fodoli ymhlithom?

Bydd Celeste yn ymuno â Moon ar daith drwy amser, antur gyffrous a fydd yn dangos iddynt y Ddaear fel yr oedd yn y gorffennol pell iawn.

Byddant yn gweld y trawsnewidiadau diddorol y bu i’r anifeiliaid hyn fynd drwyddynt dros filiynau o flynyddoedd, gan greu creaduriaid enfawr, bwystfilod arfog a gor-ysglyfaethwyr, nes y daeth digwyddiad effaith trychinebus a achosodd ddifodiant torfol ar y Ddaear.

Ond nid yw popeth wedi’i golli. Bydd Celeste yn darganfod yr allwedd i’w goroesiad.

 7fed Medi / 28 Medi
Amser sgrinio: 4:30pm / 3pm
Hyd: 29 minutes.
Bydd y drysau’n agor 1 awr cyn y sgrinio.
Ar gyfer pob oedran

Tynnwch docynnau YMA