I fanteisio’n llawn ar raglen 2026, gallwch brynnu Pas Catalydd 360º sy’n rhoi mynediad i chi i bob un o’r naw sioe arddangos sy’n cael eu cyflwyno yn ystod ein tymor o berfformiadau a digwyddiadau. Mae hwn yn gyfle delfrydol i unrhyw un sydd am brofi holl rychwant y rhaglen. Ac mae’n fargen go iawn – nid yn unig yn rhoi mynediad i bob sioe, ond hefyd yn rhoi cyfle i chi brofi amrywiaeth eang o berfformiadau trochol, gosodweithiau a digwyddiadau Realiti Ymestynnol byw drwy gydol tymor Catalydd 360º.
3 o breswyliadau celfyddydau trochol
6 o sioeau arddangos Realiti Ymestynnol
Prosiectau a ddewiswyd ar gyfer Catalydd 360º 2026:
31 Gorffennaf: Spectral Lures gan Carlos Serrano / Profiad adleisiol a thrawsnewidiol sy’n cymylu’r ffin rhwng y naturiol a’r artiffisial, gan gwestiynnu nid yn unig beth rydyn ni’n ei weld, ond natur ein canfyddiad.
7 Awst: Sunrise in Other Worlds gan Squidsoup / Gosodwaith a pherfformiad trochol haniaethol sy’n dychmygu cylchdroadau’r wawr a’r machlud mewn bydoedd arallfydol gan gario’r gynulleidfa ar draws tirweddau pellenig.
21 Awst: Hope Immersive ganThe Blackout / Dathlu penblwydd y band yn 15 oed gyda pherfformiad byw egnïol yn adlewyrchu cyfoeth eu gwaddol cerddorol a’u hagwedd flaengar wrth greu cerddoriaeth a symud tua’r dyfodol.
11 Medi: Land Empathy gan Richard Chappell Dance / Perfformiad o waith dawns gyfoes wedi’i ysbrydoli gan argyfwng yr hinsawdd – yn archwilio sut y gall symudiad ddyfnhau cysylltiadau emosiynol ac ysbrydol â byd natur.
18 Medi:MindsetganNatalie Roe a Beth Lewis / Profiad trochol sy’n cyfuno gosod a llywio sain ar y pryd, cerddorion ar grwydr, elfennau gweledol 360º, a thrin a chyfeirio elfennau gweledol ar y pryd.
25 Medi: Dying and Rising gan Celyn of Gwent / Perfformiad clyweledol byw yn plethu lleisiau ac elfennau gweledol sain-ymatebol a monologau barddonol.
1 Hydref: Give Us Dance gan Krystal S. Lowe, IKAMBA a Onismo Muhlanga / Digwyddiad trochol sy’n cyfuno sain, symudiad a delweddaeth i ysbrydoli llesiant, meithrin cysylltiad a thoddi ffiniau perfformio traddodiadol.
13 Tachwedd: Uncanny Valley gan Georgia Ruth / Taith weledol a cherddorol drwy stafelloedd sain ei halbwm nesaf – lle mae pethau cyfarwydd yn dechrau teimlo’n rhyfedd, a lle mae anesmwythyd yn bwrw cysgod dros gysur.
14 Tachwedd: Sioe arddangos arbennig gan Teddy Hunter / Perfformiad wedi’i ail-greu o’r newydd ar gyfer y cryndo, gan blethu electroneg amgylchynnol, lleisiau byw, elfennau gweledol 360º ac offeryniaeth gan fand llawn.
Catalydd 360º / Tocyn Tymor
Tocyn Tymor - £99